Facebook Pixel
Skip to content

Adrodd ar Berfformiad

Trosolwg

Mae adroddiadau perfformiad y CITB, sy’n cael eu cyhoeddi bob chwarter, yn ceisio rhoi trosolwg o sut mae Lefi'r diwydiant yn cael ei fuddsoddi a pha effaith mae wedi’i gael, gan roi cyfle i chi olrhain ein cynnydd yn erbyn ein cynllun busnes. Er mai’r prif bwrpas yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi, rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn eich helpu chi i’n helpu ni, pan fyddwch chi’n rhoi adborth ar sut a ble rydych chi’n meddwl y dylid buddsoddi Lefi’r diwydiant.

Chwarter 4: Ionawr i Mawrth 2023 

Mae’r adroddiad perfformiad hwn yn olrhain ein cynnydd yn erbyn y targedau a nodir yn ein cynllun busnes 2022-23, a sut rydym yn cefnogi’r diwydiant adeiladu i gael gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol, nawr ac yn y dyfodol.

Ein rôl yw:

  • Rhoi gwybodaeth i’r bobl iawn a’u galluogi i ddechrau arni yn y diwydiant adeiladu
  • Datblygu system hyfforddi a sgiliau i ddiwallu anghenion y presennol a’r dyfodol
  • Cefnogi’r diwydiant i hyfforddi a datblygu ei weithlu

Darllenwch yr adroddiad llawn:

Dyma rai o uchafbwyntiau’r chwarter hwn:

Nod: 10% Yn nifer y bobl sy'n ymweld ag Am Adeiladu

Cynnydd: Uwch na’r targed ar 61%

“Mae gyrfa yn y diwydiant adeiladu yn hwyl, yn gyflym, yn heriol ac yn werth chweil. Byddwch yn cwrdd ag amrywiol bobl ar bob lefel o fusnesau – a gyda hynny daw cyfleoedd gwych.”

Mae Mimi-Isabella Mwosu, peiriannydd deunyddiau cynorthwyol, yn ffynnu ar ddechrau ei gyrfa adeiladu. Gyda dros 1.3 miliwn o bobl yn ymweld â gwefan Am Adeiladu, cynnydd enfawr o 61% ers y llynedd, rydym yn dangos y cyfleoedd amrywiol a llawn boddhad sydd ar gael i annog mwy o bobl fel Mimi i ymuno.

Nod: Cynnydd o 3% yn nifer y cyflogwyr sy’n cael cymorth hyfforddiant CITB

Cynnydd: uwch na’r targed ar 15%

Roeddem wedi rhagori ar y targed erbyn diwedd y flwyddyn, ganfuddsoddi dros £108m mewn cyllid uniongyrchol i gyflogwyr, gan sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gallu cael gafael ar hyfforddiant costeffeithiol o ansawdd uchel ar adeg ac mewn lleoliad sy’n gyfleus iddynt.

Mae dros £10m wedi cael ei fuddsoddi drwy’r Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant, gyda’r rhan fwyaf yn mynd i dros 2,100 o fusnesau bach a chanolig – cynnydd o 38%. Roedd y gronfa hefyd yn cefnogi 128 o gyflogwyr canolig, cynnydd o 31%.

Yn y cyfamser, mae ein grantiau cyrsiau byr wedi cefnogi dros 173,000 o ddysgwyr – gan fuddsoddi dros
£15m mewn sgiliau adeiladu craidd.

Parhaodd ein Tîm Ymgysylltu â’u gwaith diflino, gan gwblhau dros 60,000 o ymrwymiadau – mwy na dwbl cyfanswm y llynedd – i wneud yn siŵr bod cyflogwyr yn gallu deall a chael gafael ar gymorth hyfforddiant cynhwysfawr CITB.

Nod: Cynnydd o 3% yn nifer yr unigolion sy’n cael eu hyfforddi neu eu cefnogi

Cynnydd: uwch na’r targed ar 7%

Roedd ein cynnig hyfforddiant eang yn parhau i fynd o nerth i nerth. Mae gweithlu medrus yn dibynnu ar gyflenwad hyfforddiant hyblyg, hygyrch ac wedi’i ariannu’n dda.

Mae hyn yn cael ei gynrychioli orau gan ein Rhwydwaith Cyflogwyr. Mae’r cynllun peilot 12 mis yn trawsnewid hyfforddiant: mae cyflogwyr yn cael cymorth i lunio rhaglenni hyfforddi a phenderfynu sut mae cyllid CITB yn cael ei ddefnyddio yn eu hardal.

Mae 246 o gyflogwyr a dros 3,400 o ddysgwyr wedi elwa hyd yma, ac wrth ehangu i rwydweithiau sectorbenodol, mae disgwyl cyrraedd mwy.