Ynglŷn â Lefi CITB
Mae gan CITB yr awdurdod i osod lefi ar gyflogwyr yn y diwydiant adeiladu.
A yw'r Lefi’n berthnasol i chi?
Mae’r Lefi’n berthnasol i bob cyflogwr sydd, yn gyfan gwbl neu’n bennaf, yn cyflawni gweithgareddau’r diwydiant adeiladu. Mewn geiriau eraill, pan mae eich gweithwyr (gan gynnwys is-gontractwyr) yn treulio mwy na hanner o’u hamser yn cyflawni gweithgareddau'r diwydiant adeiladu.
Rhagor o wybodaeth am bwy ddylai gofrestru â CITB
Faint yw’r Lefi?
Mae’r hyn y byddwch yn ei dalu’n seiliedig ar gyfanswm eich bil cyflogau (h.y. faint rydych yn talu’ch gweithwyr mewn blwyddyn).
Yma, mae’r gair ‘gweithwyr’, yn benodol, yn golygu gweithwyr sydd ar y system gyflogau ac is-gontractwyr rydych yn didynnu treth oddi wrthynt o dan Gynllun y Diwydiant Adeiladu. Mae wedi’i ddiffinio yn y Ddeddf Hyfforddiant Diwydiannol.
Mae cyfraddau Lefi ar gyfer Asesiad Lefi 2021 bellach wedi’u cadarnhau fel 0.35% ar gyfer TWE a 1.25% ar gyfer CIS Net.
Ceir eithriad rhag talu’r Lefi a gostyngiad yn y Lefi i fusnesau bach.
Rhagor o wybodaeth am gyfraddau'r Lefi a’r ffordd y maent yn cael eu hasesu
Beth yw pwrpas Lefi CITB?
Mae Lefi CITB yn cael ei ddefnyddio i helpu cyflogwyr yn y diwydiant adeiladu er mwyn sicrhau bod gan y diwydiant y gweithlu medrus sydd ei angen arno.
Mae’n bodoli i sicrhau bod gan weithlu'r diwydiant y sgiliau cywir nawr ac yn y dyfodol ar sail tair blaenoriaeth strategol CITB:
- Gyrfaoedd
- Safonau a Chymwysterau
- Hyfforddi a Datblygu