Facebook Pixel
Skip to content

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol

Mae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) yn darparu meincnodau ar gyfer perfformiad cymwys. Mae'r cynnwys yn cael ei arwain gan alw ac yn seiliedig ar dystiolaeth gan ddiwydiant. Mae'r NOS yn sail i hyfforddiant galwedigaethol, prentisiaethau, fframweithiau a chymwysterau ledled y DU, ym mhob sector a galwedigaeth. Mae CITB yn datblygu'r safonau hyn ac yn eu cynnal ar gyfer y diwydiant adeiladu.

Gallwch ddefnyddio'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol hyn i:

  • Disgrifio arfer da mewn meysydd gwaith penodol
  • Nodi datganiad cymhwysedd
  • Darparu adnoddau ar gyfer amrywiaeth o adnoddau rheoli ansawdd a rheoli gweithdy
  • Cynnig fframwaith ar gyfer hyfforddiant a datblygiad.

Mae'r safonau wedi'u llunio mewn 'cyfresi' o dan feysydd galwedigaethol a gellir eu gweld yn unigol ar gronfa ddata Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol sydd yn cael eu hadolygu

Y gyfres sy'n cael eu datblygu yn 2021-2022 yw:

  • Galwedigaethau Toi
  • Galwedigaethau Gorchuddio Lloriau
  • Systemau toi bilen dal dŵr
  • Gweithrediadau Twnelu
  • Logisteg Safle
  • Gweithrediadau Gosod Seilbyst
  • Ffurfwaith
  • Asffalt Mastig
  • Galwedigaethau Cladin Sgrîn Glaw
  • Gosodiadau mewnol

Os hoffech chi gymryd rhan neu gyfrannu at ddiweddaru'r cyfresi hyn o NOS, anfonwch unrhyw sylwadau / awgrymiadau at  standards.qualifications@citb.co.uk

Hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith

I basio NVQ neu uned am gymhwyster yn llwyddiannus, mae'n rhaid i ddysgwyr ddarparu tystiolaeth yn seiliedig ar waith o'u gallu. Ar gyfer nifer gyfyngedig o eitemau ychwanegol mewn uned, mae'n bosibl dangos eu sgiliau mewn amgylchedd efelychiadol (i ffwrdd o'r gwaith) - er bod yn rhaid cynnal hyn yn unol â rheoliadau asesu.

Gweler y rhestr gyfredol o unedau y mae'n bosibl eu cwblhau mewn amgylchedd i ffwrdd o'r gwaith (PDF, 66KB)